Mae thema Diwrnod y Ddaear eleni, ‘Ein Grym, Ein Planed’, yn ceisio ynni adnewyddadwy. Gyda’r gosodiad paneli solar bron wedi’i gwblhau, dyma’r amser perffaith i ddathlu’r cyflawniad hwn. Mae’n ysbrydoledig i weld mentrau tebyg ledled y byd, tra’n ein gyrru tuag at blaned lanach. Rydyn yn falch i fod yn rhan o’r symudiad hwn."
Meddai’r Cynghorydd yn parhau.“Trwy gyflenwi trydan carbon isel i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, rydyn ni'n helpu i leihau ei ôl troed carbon, gan wneud y prosiect hyd yn oed yn fwy buddiol a chyflenwi ein GIG lleol yn uniongyrchol."
“Yn ogystal â hynny, gan nad yw'r domen lo wedi'i hadfer, sydd ar y safle, yn addas ar gyfer amaethyddiaeth, mae'r prosiect yma'n dangos sut y gall tir gael ei ailbwrpasu ar gyfer ynni glân wrth fod yn gymorth i fioamrywiaeth ar yr un pryd. Bydd hawliau pori anifeiliaid yn parhau, gan ddangos bod prosiectau ynni solar yn gallu bodoli ochr yn ochr â ffermio i wella bioamrywiaeth.”
Hyd yn hyn, mae'r prosiect wedi creu deg swydd leol ac wedi cynhyrchu dros £600,000 o wariant gyda busnesau a chyflenwyr lleol. Mae’r tîm hefyd yn gweithio’n galed i wella bioamrywiaeth drwy blannu perthi a gosod pyst gwenyn, blychau adar, a blychau ystlumod.
Bydd Fferm Solar Coed Elái yn darparu digon o ynni i bweru tua 8,000 o gartrefi bob blwyddyn tra’n cyflenwi trydan carbon isel yn uniongyrchol i Ysbyty Brenhinol Morgannwg drwy rwydwaith gwifrau preifat dros dri chilometr. Mae’r dull arloesol hwn yn sicrhau bod hyd at 15% o alw blynyddol yr ysbyty am drydan yn cael ei ddiwallu’n gynaliadwy gan godi i 100% ar ddiwrnodau brig yr haf.