Mae’r garreg filltir yma’n cynnwys gweld yr holl waith caled yn dwyn ffrwyth wrth i Ysbyty Brenhinol Morgannwg dderbyn ei hwb cyntaf o bŵer o’r fferm solar. Mae’r prosiect uchelgeisiol yma’n gyfle unigryw i ddarparu ynni er budd ein cymunedau. Bydd unrhyw drydan a nad yw'n cael ei ddefnyddio gan yr ysbyty yn cael ei fwydo i'r Grid Cenedlaethol, gan helpu i gryfhau diogelwch ynni cyffredinol y DU. Ond mae 'lleol' yn pwysig I’r prosiect hwn, pŵer lleol ac effaith leol.
Meddai Mark Williams, Cyfarwyddwr Partneriaethau Vital Energi: “Mae gweld ynni glân, carbon isel yn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn fwy na chyflawniad technegol yn unig, mae’n dangos sut y gall y sector cyhoeddus gydweithio i gyflawni ei nodau sero net. Dyma ychwanegiad gwych arall at seilwaith ynni carbon isel Cymru ac un a fydd yn cyfrannu at ddyfodol glanach a mwy cynaliadwy i bawb.
“Hoffen ni longyfarch Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gynllun gweledigaethol a greodd dempled ar gyfer cydweithio y mae modd ei ailadrodd ledled Cymru a thu hwnt.”
Adeiladwyd Fferm Solar Coedelái ar safle glofa wedi’i hadfer, gan droi 84 erw o hen dir diwydiannol yn ased ynni adnewyddadwy ar gyfer y rhanbarth. Fel un o'r prosiectau solar mwyaf awdurdod lleol yng Nghymru, mae'n cynhyrchu digon o ynni glân i bweru tua 8,000 o gartrefi bob blwyddyn wrth gyfrannu 5MW at y grid.
Meddai Claire Thompson, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Thrawsnewid: “Dyma gam pwysig i’n bwrdd iechyd ac i Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae troi ynni’r haul ymlaen yn fwy na chyflawniad technegol yn unig – mae’n symbol o’n hymrwymiad i ddarparu gofal iechyd mewn ffordd gynaliadwy, blaengar.
“Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o brosiect sy’n lleihau ein hôl troed carbon ac yn cryfhau ein partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf a Vital Energi. Dim ond dechrau ein taith tuag at ddyfodol mwy gwyrdd yw hwn.
“Diolch o galon i’n holl gydweithwyr y gwnaeth eu hymroddiad a’u gwaith caled y garreg filltir yma’n bosibl.”
Ychwanegodd Matt Ace, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Stantec yng Nghymru: “Roedd y prosiect uchelgeisiol yma yn gofyn am wybodaeth ofalus a helaeth ynghylch dylunio solar a chyflenwi pŵer, yn ogystal ag ymchwiliadau daearegol cymhleth a modelu economaidd dibynadwy. Rydyn ni’n falch o fod wedi bod yn rhan o garfan brosiect hynod gydweithredol a blaengar. Credwn fod y cynllun yma’n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd partneriaid cyhoeddus a phreifat yn rhannu gwydnwch, effeithlonrwydd ac arloesodd fel nodau cyffredin.”